Y peth trawiadol am y Coroni Mawr ydi mai carfan gymharol fechan o bobol sydd fel petaen nhw’n gwirioni.

Mae’n wir fod y rheiny’n cynnwys rhai o’r papurau newydd mwya’, y BBC, gwleidyddion Ceidwadol (ac arweinwyr Llafur) ond, yng Nghymru o leia’, go brin y gallwch chi ddweud bod yna frwdfrydedd heintus ynghylch yr holl beth.