Y ddihareb am y mul a’r gic a ddaeth i’r meddwl wrth weld yr ymateb i benderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ddefnyddio ei enw Cymraeg, yn hytrach na ‘Brecon Beacons’.

Mi ddaeth y beirniaid amlwg i’r adwy – y newyddiadurwr, John Humphrys, y gwleidydd, Andrew RT Davies, er enghraifft – a chasgliad o bobol ar y cyfryngau cymdeithasol yn cwyno am ryfel diwylliant a gwrth-Seisnigrwydd.

Y feirniadaeth wiriona’ oedd awgrymu bod y newid yn ddibwynt. Y pwynt oedd y peth pwysica’.