Mae yna ymateb cymhleth i ymddiswyddiad anfodlon y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab. Mae’n amlwg fod gan rai blogwyr edmygedd at bobol sy’n siarad yn blaen a diffyg edmygedd o weision sifil…

A dyma hi’n ddominô ar yr hen Ddominic – am iddo ddominyddu gormod medd yr adroddiad. Ond clywaf dipyn o gefnogaeth iddo heddiw, a hynny’n iawn hefyd. Onid ydym wedi dysgu dim gan rifynnau lawer o ‘Yes Minister’ a ‘Yes Prime Minister’? Hen bryd i rywun sodro Syr Humphrey yn ei le, a chyfrifoldeb pwy yw hynny os nad y gwleidyddion – sef ein cynrychiolwyr etholedig ni?” (glynadda.wordpress.com)

Ar y llaw arall, mae yna ddrwgdybiaeth o rai sy’n ymfalchïo mewn gwneud er mwyn gwneud…

“Mae’r syniad y dylai arweinwyr fod yn fythol egnïol ar yr wyneb yn wirion. Roedd Genghis Khan ‘yn llwyddo i gyflawni’, a Fred West… Mae Raab, cofiwch, mor llawn o or-hyder fel ei fod yn teimlo’n gymwys i weithredu ei Ddeddf Hawliau ei hun ar gyfer y Deyrnas Unedig i ddisodli’r Confensiwn Ewropeaidd. Aeth ei gydweithiwr, Michael Gove, ati i ddosbarthu copi o Feibl King James i bob ysgol yn y wlad ar ôl ychwanegu ei ragair ei hun. Gair Duw, blant, ond yn well!” (Ben Wildsmith ar nation.cymru)

Gan John Dixon y daeth cynnig ar esbonio’r math yma o ymddygiad a’r cyfan, meddai o, yn dechrau efo addysg a’r ffaith drawiadol fod bron dau o bob tri o aelodau’r Cabinet presennol wedi bod mewn ysgol fonedd…

“Byddai’r rhan fwyaf o bobol sydd wedi dioddef bwlio yn y man gwaith yn edrych ar yr adroddiad am Raab a dod i’r casgliad: ‘Ie, dyma ymddygiad bwli’. Ond os edrychwn ni ar y mater yng nghyd-destun profiad ysgol, mae’n berffaith synhwyrol dadlau fel arall. I rywun sydd wedi bod yn un o ysgolion bonedd ‘mawr’ y Deyrnas Unedig, mae’r hyn sy’n ymddangos yn fwlio i’r rhan fwyaf ohonon ni yn edrych fel ymddygiad cwbl normal. Yn ‘adeiladu cymeriad’ hyd yn oed. Ei ddioddef yn eu blynyddoedd cynnar ac yna’i orfodi ar eraill yn nes ymlaen yw eu syniad o normal.” (borthlas.blogspot.com)

Ac o sôn am esboniadau gwahanol, mae gan Hayden Williams ar nation.cymru eglurhad am rai o broblemau gwleidyddiaeth Cymru, wrth i’r Gwyrddion ddechrau eto ar drafod cael plaid Gymreig ar wahân…

“… mae’r Gwyrddion Cymreig yn dal i fod heb dorri’r llinyn, er bod Gwyrddion Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi hen wneud hynny. Mae’r un peth yn wir am  y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Lib Dems yr UK, efo Llafur Cymru ac UK Labour (unolaethwyr eraill) a’r un peth gyda Cheidwadwyr Cymru a’r UK (unolaethwyr i’r carn)… y broblem yw fod aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig i raddau helaeth er budd y Blaid Lafur Gymreig ynddi ei hun… mae’n rhaid fod Llafur Cymru – ac felly i raddau helaeth Llywodraeth Cymru – yn ‘blaid dwy genedl’. Ac all gwas ddim gwasanaethu dau feistr yn llwyddiannus.”