“A fyse chi’n ystyried cael unrhyw ddynion ynghlwm yn y prosiect?”

Dyna’r cwestiwn mae’r cynhyrchwr yn ofyn i mi mewn cyfarfod Zoom am brosiect ble mae’r cyfarwyddwr (fi), y dramodydd a’r cyfansoddwr i gyd yn fenywaidd.

“Mae presenoldeb menywod ar y prosiect braidd yn drwm, ac efallai byse fe’n dda cael bach o ‘egni gwrywaidd’ yn y stafell”. Rwy’n gwneud llygaid syn ac yn meddwl i fy hun: yw e’n 1978?