Mae’n ymddangos, am unwaith, bod Cymru’n dangos y ffordd o ran ymateb i’r Coroni Mawr…

“Dangosodd pôl YouGov… nad yw’r rhan fwya’ o bobol yn malio fawr ddim am y Coroni – daw ar ôl i ddim ond pedwar parti stryd preifat gael eu cofrestru yng Nghymru ar gyfer y digwyddiad y mis nesa’…. Ond rhaid i ni symud o ddiffyg diddordeb cyffredinol… i wrthwynebiad go-iawn i sefydliadau’r frenhiniaeth a’r hierarchiaeth ddofn a’r ffiwdaliaeth y maen nhw’n eu cynrychioli. Y cyfoeth afiach a’i seiliau mewn caethwasiaeth yw’r datgeliadau diweddara’ a ddylai gadarnhau barn weriniaethol pawb… Dylai’r coroni fod yn gyfle i ryddhau dicter yn erbyn y sefydliad yma a’r wlad doredig, grotésg hon.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Mae’r diffyg diddordeb yma yn arwydd o gasgliad y daeth gweddill y byd iddo fo eisoes, yn ôl Ben Wildsmith ar nation.cymru

“Penderfynodd y byd yn gyffredinol ers achau ynghylch ansawdd moesol imperialaeth Brydeinig ac mae sefydliad sydd i fod i arwain [y frenhiniaeth] ymhell ar ôl y consensws rhyngwladol. Pan fydd y brenin yn gwisgo jympsiwt y coroni ac yn cyflawni’r hyn y mae’n dybio yw ei dynged, bydd hynny’n digwydd i gyfeiliant difaterwch gartre’ a gwawd cynyddol dramor. Mae’r llong frenhinol wedi gwneud mwy na hwylio bant, mae hefyd wedi suddo, gydag ewyllys da tuag at y Deyrnas Unedig ar ei bwrdd.”

Rhan o’r cyfoeth brenhinol oedd yn poeni Hayden Williams, y newyddiadurwr sy’n byw yn Seland Newydd… y rhan hwnnw sy’n deillio o Ystad y Goron. Dydi’r rhannau sydd yng Nghymru (gan gynnwys rhannau helaeth o’r arfordir a gwely’r môr) ddim wedi eu datganoli, er gwaetha’ cytundebau rhyngwladol sy’n cydnabod hawliau ‘pobol gynhenid’…

“… mae Trysorlys y Deyrnas Unedig yn elwa (ac eithrio’r 25% o’r elw blynyddol sy’n mynd i’r Brenin, ac a oedd yn 86.3 miliwn o bunnoedd Prydeinig ar gyfer y flwyddyn 2021-22) a Thrysorlys y Deyrnas Unedig sydd â’r gair ola’ mewn unrhyw anghydfod. Mae Llywodraeth Cymru yn hawlio ei bod yn trafod gyda San Steffan am ddatganoli Tiroedd y Goron yng Nghymru. Mae’n bosib y gallai’r ddadl gael ei chryfhau petai’r Cymry’n dechrau ceisio cydnabyddiaeth ryngwladol yn bobol gynhenid.”

Ond yn ôl at y wlad grotésg… ar ôl gweld ymosodiad personol y Blaid Lafur ar Brif Weinidog Prydain, Rishi Sunak, does gan y newyddiadurwr Martin Shipton fawr o ffydd wrth edrych ymlaen at y frwydr etholiadol nesa’…

“Yn hytrach na wynebu ein problemau mewn ffordd aeddfed a chynnig atebion go-iawn, fel mynd yn ôl i’r farchnad sengl a’r undeb tollau, gallwn ddisgwyl cyfres o ymosodiadau personol wedi eu hanelu at danseilio arweinwyr y prif bleidiau. Yn eironig, gallwn ddisgwyl ymgyrch etholiad gïaidd er gwaetha’r ffaith fod Plaid Geidwadol y Deyrnas Unedig a’r blaid Lafur yn nes at ei gilydd nag ers llawer blwyddyn.” (nation.cymru)