*Mae’r golofn hon yn cynnwys ieithwedd hiliol

Mae pâr o dafarnwyr o Loegr wedi cael tipyn o sylw yn y wasg a’r cyfryngau’n ddiweddar am arddangos casgliad o goliwogs yn eu tafarn.

Ar ôl cwyn gan aelod o’r cyhoedd, anfonodd heddlu’r ardal griw o swyddogion i’r dafarn i feddiannu’r cyfryw deganau, yn rhan o’u hymchwiliad i drosedd casineb honedig.