Dim Sgubor Wen oedd ei henw ers talwm – Sgubor Tail oedd hi’n arfer bod, am fod y domen dail yn beryglus o agos at y drws ac arogl baw’n drwch oddi mewn iddi, yn enwedig mewn tywydd poeth. Ond does neb eisiau dod ar eu gwyliau i Sgubor Tail, a bellach, mae hi wedi ei phaentio’n wyn i gyd, bellach mor lân ag oedd hi’n fudr ers talwm.