Yr adeg yma’r llynedd mi ysgrifennais i golofn yn mynegi fy anfodlonrwydd â thwristiaeth. Mi es i damaid o ddŵr poeth, gan hyd yn oed gael fy nghyhuddo o hiliaeth am fynegi rhwystredigaeth fy mod i ddim hyd yn oed yn medru cael tecawê heb orfod aros amser hurt, oherwydd maint y tarfu gan ymwelwyr ar fywyd bob dydd.