Yn Iwerddon yr wythnos yma, mae penawdau’r wasg a’r cyfryngau eraill yn llawn o ddathliadau chwarter canrif Cytundeb Gwener y Groglith – arwydd o bwysigrwydd y setliad hwnnw ar ochr Dulyn i’r dŵr.

Ganol yr wythnos, roedd yna edrych ymlaen at ymweliad gan Joe Biden, i ddechrau i’r Gogledd ac wedyn i hen gartref ei hynafiaid yn siroedd Louth a Mayo. Er gwaetha’r amheuon am ei wendid personol, does yna ddim amheuaeth am ddylanwad yr Unol Daleithiau mewn materion Gwyddelig.