Rhan o gefndir nofel ddiweddara’ Wiliam Owen Roberts, Cymru Fydd, ydi rhyfeloedd dŵr.
Sôn am Gymru ddiwedd y ganrif yma y mae hi ac, wrth i effeithiau newid hinsawdd achosi sychder, y gallu i reoli cyflenwadau dŵr ydi un o’r arfau mwya’ pwerus sydd gan lywodraeth y wlad.
Mae’n bosib iawn fod yr ‘hanes’ yn y nofel yn agos iawn ati, yn sicr o ran pwysigrwydd dŵr yn y blynyddoedd i ddod.