Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

The Sirens of Titan gan Kurt Vonnegut. Dim ond yn weddol ddiweddar dw i wedi darganfod Vonnegut, ond yn barod dw i’n ei ystyried yn hoff awdur. Dw i’n gymaint o ffan fel fy mod wedi sefydlu Clwb Darllen Vonnegut, lle rydyn ni’n darllen ei nofelau i gyd mewn trefn. Hon yw ei ail nofel, felly mae gynnon ni dipyn o ffordd i fynd — dyna ffodus!

Y llyfr a newidiodd fy mywyd