Roeddwn i, fel sawl un arall, yn falch iawn o weld rhaglen am y celfyddydau yn dychwelyd i donfeddi Radio Cymru’r wythnos diwethaf. Achosodd penderfyniad yr orsaf i gael gwared â rhaglen Stiwdio dipyn o stŵr y llynedd ond bellach mae rhaglen newydd Ffion Dafis ar brynhawniau Sul wedi dod i lenwi’r bwlch sylweddol hwnnw.