Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod ar flaen y gad yn galw am ddathliad mawr yn ystod penwythnos Coroni Charles III ym mis Mai.

Ac yn rhyfedd iawn, dw i’n digwydd cytuno â nhw. Mae angen dathliad arnon ni, drigolion y Deyrnas Unedig. Cyfle i ddod at ein gilydd. Cyfle i gefnu, am damaid, ar boenau’r bywyd hwn.

Rydyn ni wedi byw drwy gyfnod diflas iawn ers dipyn. Mae ffwlbri Brexit wedi rhygnu yn ei flaen ers blynyddoedd.

Mae costau byw a chwyddiant yn peri gofid a chaledi a thrybini i lawer.