Yno i wylio oeddwn i. Rydw i’n gwneud hynny weithiau pan fydd croeshoeliad, er bod Mam yn dweud ei fod o’n ffordd aflan i ddyn ifanc pymtheg oed fod yn treulio’i amser, ac y byddwn i’n well yn rhoi help llaw iddi hi yn y tŷ neu’n glanhau’r dom geifr o’r cae bach. Unwaith erioed yr aeth hi i weld croeshoeliad, pan oedd hi’n eneth fach, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n dal i gael hunllefau amdano hyd heddiw, yn dal i glywed synau gwan, di-eiriau’r dyn oedd yn cael ei gosbi. Ond rydw i’n dal i fynd. M