Bydd gwrandawyr cyson Radio Cymru yn eithaf cyfarwydd â gwaith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dros y blynyddoedd diwethaf. Boed yn dathlu pen-blwydd Recordiau Sain yn hanner cant neu’n dymuno’n dda i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd, cerddorfa lawn yn chwarae trefniannau o ganeuon pop yw’r ffasiwn ar hyn o bryd, a’r arlwy diweddaraf oedd Gig Chillout Sian Eleri.