Mae’n rhyfeddol sut mae gymaint o bobl yn gallu gwylio’r un gêm bêl-droed a gweld rhywbeth hollol wahanol i’w gilydd. Rydw i wedi arfer efo hynny erbyn hyn, ond dydw i ddim yn cofio gymaint o anghytuno ar safon perfformiad tîm Cymru na’r hyn roedden ni wedi gweld ar ôl y gêm yn erbyn Latfia’r wythnos ddiwethaf.