Felly pwy yn union yw’r Youth yma sydd newydd dreulio amser yng ngogledd Cymru yn cynnal nosweithiau ym Môn, Llŷn a Chaernarfon? Wel, mae ei deulu o Langefni, ei Dad wedi ei gladdu yno, ond i’r rhan fwyaf ohonom o’r cyfnod Punk, Youth ydi basydd y band Killing Joke. Cofiwch, ei enw go iawn ydi Martin Glover, daw’r ‘Youth’ ar ôl y cerddor Reggae o Jamaica, Big Youth. Martin ydi o i’w deulu Cymraeg ar Ynys Môn.