Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru! Hwre!

Peidiwch â gor-gyffroi gyda’r newyddion yr wythnos yma bod y tîm o Whittington ger Croesoswallt wedi codi’r tlws mwyaf ym mhêl-droed Cymru am y pymthegfed tro. Maen nhw wedi gorffen yn y tri uchaf y gynghrair am 22 o flynyddoedd yn olynol ac ar ôl chwarae 1,000 o gêmau Uwch Gynghrair Cymru yn ddiweddar, tydyn nhw ond wedi colli 173 o weithiau. Pam felly bod y llwyddiant yma mor amhoblogaidd?