Fel y gwyddom, mae’n anodd dod o hyd i unrhyw newyddion o lawenydd mawr y dyddie yma.

Mae’r rhyfel yn Wcráin yn rhygnu ymlaen wrth i fwy a mwy o filwyr ladd ei gilydd wrth ddinistrio Bakhmut a dinasoedd eraill. Ry’n ni gyd yn delio gyda’n problemau costau byw, wrth i chwyddiant erydu gwerth ein harian a’n cynilion. Ac mae tîm rygbi Cymru yn weddol iwsles.

Yn anffodus, gall pethe fynd waeth o lawer, yn fuan.