Fel rhywun sydd yn joio cwis ac yn hoff iawn o gerddoriaeth pop, rwyf yn croesawu unrhyw gyfle i gyfuno’r ddau ddiddordeb. Un o fy hoff raglenni teledu am flynyddoedd maith oedd Never Mind the Buzzcocks. Cyfnod Simon Amstell yn cyflwyno’r gyfres gomedi banel ar BBC oedd yr uchafbwynt i mi ac er iddi ddychwelyd yn ddiweddar wedi ychydig flynyddoedd o hoe, ar Sky y tro hwn, tydi hi ddim cweit yr un peth gyda’r Cymro Gregg Davies wrth y llyw.