O leia’ chafodd y blogwyr ddim eu twyllo gan yr ymdrech i droi dadl ffoaduriaid yn ddadl cyflwynydd pêl-droed…
“Yn anffodus, helynt y penwythnos yma yn y BBC yw’r union ganlyniad yr oedd y llywodraeth yn gobeithio amdano. Mae eu cynigion polisi ffiaidd, ffuglennol, wedi tynnu’r genedl [sic] i ddadl eithafol sydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw fater sylweddol, yn canolbwyntio ar iaith un trydariad unigol gan gyflwynydd teledu. Mae’r busnes o wladweinyddiaeth, yn nwylo’r blaid Dorïaidd bresennol, yn cael ei gynnal o fyncer ac mae’r gymhariaeth hanesyddol yna’n un y byddan nhw’n ei chael yn fwyfwy anodd i’w hosgoi.” (Ben Wildsmith ar nation.cymru)
Yn yr Alban, mae Mike Small yn rhoi sylw i iaith gweinidogion yn hytrach nag iaith cyn bêl-droedwyr…
“Roedd iaith – nid yn unig Brexit – ond y blynyddoedd cyn hynny yn canolbwyntio’n gyson ar ‘fygthiad’, ‘goresgyniad’ ac argyfwng. Mae’r thema hon wedi cael ei hailadrodd dro ar ôl tro trwy fwydlen weledol o ofn, casineb a pharanoia wedi ei chorddi’n ddidrugaredd gan y Mail, yr Express a’r Sun a’u cydweithwyr yn y Telegraph, y Spectator a chwd llwyfannau darlledu newydd o’r dde eithafol. Mae amgylchiadau yr Almaen yn y 1930au a gwledydd Prydain heddiw yn wahanol iawn, ond mae neilltuo eraill, y diafoli cyson ar y ‘dieithr’ ynghyd â’r gytgan gyson yn dathlu ymerodraeth, yn mawrygu ac amddiffyn hanes a’r sôn am ‘Brydain Fyd-eang’ a ‘Britannia Heb Gadwynau’ neu’r Eingl-Brydain yn bŵer mawr sy’n cael ei llesteirio gan bŵer cudd pobol eraill – dyma eiriau ac iaith sy’n adleisio’r 1930au.” (bellacaledonia.org.uk)
Yn ôl John Dixon, doedd dim angen y gymhariaeth efo Almaen y 1930au, ond mae’n poeni mwy am siarad sy’n dod o ddwy ochr y geg…
“Does dim angen cymariaethau ar ei sylwadau [rhai Gary Lineker]; maen nhw’n cynnal eu hunain… a dw i’n amau’n fawr a fyddai wedi cael yr un feirniadaeth pe bai wedi cefnogi cynigion y llywodraeth. O ran craidd y mater – carcharu ac anfon ymaith ddegau o filoedd o bobol heb unrhyw broses gyfreithiol – mae’r safonau dwbl a’r celwydd arferol yn parhau. Wrth amddiffyn ei benderfyniad i beidio ag ymddiswyddo tra bod ymchwiliad i honiadau ei fod wedi bwlian, fe gynhyrchodd Dominic Raab y berl fach yma… ‘R’yn ni yn y wlad yma yn credu bod pobol yn ddieuog nes eu profi’n euog’. I weinidogion cabinet, yn amlwg; ond llai felly i bobol fregus a diymgeledd… Yn hytrach, mae carcharu ac anfon ymaith heb achos llys na phroses gyfreithiol yn hen ddigon da ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.” (borthlas.blogspot.com)
Ond peidiwch â phoeni, mae seremoni’r coroni ar y ffordd a’r paratoadau wedi dechrau efo seremoni lle’r oedd nifer o gyrff amlwg yn tyngu llw o ffyddlondeb i’r brenin newydd. Yn ôl Dafydd Glyn Jones, doedd neb yn cofio am un corff amlwg arall…
“Ydi ei Fawrhydi y Brenin yn cofio’i fod yn dal yn Ganghellor ar y Brifysgol, hynny sydd ar ôl ohoni? Yn sicr doedd o ddim yn cofio yn 2007 pan lwyddodd gelynion y Brifysgol ffederal o’r diwedd yn eu hen fwriad o’i dinistrio. Gwaith canghellor prifysgol yw amddiffyn safle a braint y sefydliad dan ei ofal. Faint o hynny wnaeth Siarl pan oedd ei angen? Affliw o ddim byd. Beth yw gwerth ‘teyrngarwch’, ‘llw’, ‘adduned’ mewn byd fel hyn?” (glynadda.wordpress.com)