Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor i wraig sydd â pherthynas anodd gyda’i mam…

Annwyl Rhian,

Mae fy mherthynas gyda fy mam wastad wedi bod yn anodd. Mae yna adegau pan mae hi’n gallu bod yn finiog ei thafod ac yn hynod feirniadol o’r ffordd dw i’n byw fy mywyd. Dydy hi erioed wedi licio unrhyw ddyn dw i wedi cael perthynas efo a dydy hi’n cymryd dim diddordeb yn fy ngwaith na fy niddordebau.

Ac eto, mae hi’n disgwyl i fi fod yna iddi hi pryd bynnag mae hi’n codi’r ffôn. Dw i’n unig blentyn ac roedd fy rhieni wedi ysgaru pan ro’n i’n blentyn. Mae fy mherthynas gyda fy nhad yn iawn, ond fyswn i ddim yn dweud ein bod ni’n agos. Rai misoedd yn ôl wnaeth mam gyhuddo fi o fod yn gyfrifol am chwalu eu priodas nhw – “doedd dy dad erioed eisiau plant a doedd o bendant ddim eisiau chdi”.

Dw i wedi trio cadw draw ers hynny, ond mae’n anodd. Dw i’n 43 ac, ar adegau, dw i’n teimlo’n unig iawn. Mae gen i ffrindiau agos a bywyd cyfforddus ond dw i’n teimlo fy mod i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd yn trio plesio mam. Dw i wedi sylweddoli erbyn hyn nad ydy hynny’n mynd i ddigwydd waeth beth dw i’n gwneud. Dylwn i gerdded i ffwrdd neu drio cynnal rhyw fath o berthynas efo hi?

A hithau’n dymor y Gwanwyn mae hi’n adeg defaid ac ŵyn yma yn y bryniau lle dw i’n byw ac fel pob blwyddyn, am amrywiol resymau, mae’n debyg y bydd yna ŵyn llywaeth yn y cae drws nesa. Un o’r rhesymau ydi fod y ddafad yn gwrthod ei hoen, a’r rheswm dros hynny yn aml yn ddirgelwch. Mae’r un peth yn medru digwydd efo pobol a’r rhesymau dros hynny hefyd yn aml yn ddirgelwch. Mae’n edrych fel petai eich mam yn un o’r rhai sydd wedi ffeindio bod yn fam yn anodd ac mae hynny wedi gwneud pethau yn anodd iawn i chi. Ein mam, o bawb yn y byd, ydi’r un yr ydan ni’n disgwyl i’n cynnal a’n cefnogi beth bynnag ddaw, a dydd Sul yma mi fydd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn lluniau o blant ac oedolion efo’u mamau yn gwenu’n hapus. Ond y gwir amdani ydi, tydi pob mam ddim yn fam dda, ac a dweud y gwir dw i’n adnabod amryw sydd â pherthynas anodd gyda’u mamau – merched yn enwedig. Mae’n ddrwg gen i glywed eich bod chi yn un o’r merched yma. Doedd fy mherthynas i a fy mam ddim yn un hawdd ac felly dw i’n medru cydymdeimlo efo chi.

Efallai fod eich mam yn ailadrodd patrwm ac na chafodd hi berthynas dda â’i mam ei hun. Ond dw i’n amau ei bod wedi datgelu’r gwir reswm wrthych chi wrth lefaru ei geiriau creulon am eich tad, a’i bod hi wir yn eich beio chi am ei thor-priodas – efallai am fod beio chi yn haws na beio hi ei hun. Mae’n swnio i mi fel petai hi wedi chwerwi a’ch bod chi wedi bod yn gocyn hitio iddi fwrw ei chwerwder yn ei erbyn. Hwyrach nad ydi hi hyd yn oed yn sylwi hynny, a hwyrach ei bod hi – ond bod hi methu stopio. Beth bynnag ydi’r rheswm, dw i’n meddwl eich bod yn gwneud peth call rŵan yn ceisio gwneud rhywbeth am y peth. Tydi bod mewn perthynas wenwynig ddim yn gwneud lles i’n hiechyd meddwl na’n llesiant ac mae’n amlwg fod y sefyllfa yn effeithio arnoch chi.

Gyts

Cyn i chi wneud y penderfyniad mawr a cherdded i ffwrdd, ga i awgrymu ychydig o bethau i chi drio? Yn un peth, dewiswch yn ofalus beth ydach chi’n ddweud wrth eich mam – cadwch oddi wrth bynciau personol fel na chaiff hi gyfle i’ch beirniadu. Os ydi hi’n dechrau eich beirniadu, dywedwch yn onest wrthi fod ei chlywed yn beirniadu yn eich brifo, ac os na fydd hi’n peidio mi fyddwch yn gadael/diweddu’r sgwrs. Fyddwn i byth yn cael sgyrsiau hir ar y ffôn efo fy niweddar fam, nac yn aros yn ei chwmni yn hir achos cyn gynted ag y byddai hi’n dechrau beirniadu mi fyddwn i’n gadael. Dw i’n difaru rŵan na faswn i wedi cael y gyts i ddweud wrthi pam oeddwn i’n mynd. Efallai y medrwch chi fod yn ddewrach na fi ac y medrwch chi eistedd i lawr efo’ch mam a chael y sgwrs anodd i esbonio eich teimladau, gan gynnwys yr hyn a ddywedodd hi am eich tad. Dewiswch eich geiriau yn ofalus – peidiwch â’i chyhuddo, ond yn hytrach defnyddio geiriau fel “dw i’n teimlo’n drist pan ydach chi’n dweud pethau fel yna,” yn hytrach na “rydach chi’n frwnt yn dweud pethau fel yna”.

Tybed os oes gan eich mam chwaer neu frawd neu ffrind y medrwch chi siarad efo nhw? Efallai y byddai clywed ochr eich mam drwy lygaid rhywun arall yn agoriad llygaid i chi. Sioc i mi oedd clywed pobol yn dweud yn ei hangladd pa mor falch oedd fy mam ohona i, gan nad oedd hi fyth yn dangos y balchder yna i mi.

Os, wedi i chi drio hyn i gyd, y bydd eich mam yn dal i fod yn frwnt a diystyriol efo chi, yna dw i’n credu bod ganddoch chi’r hawl i gerdded i ffwrdd gan gofio eich bod wedi trio eich gorau ac mai ei phroblem hi ydi hyn yn y bôn ac nid eich un chi. Mae’n ddigon i ni gario ein byrdwn ein hunain mewn bywyd heb sôn am fyrdwn rhywun arall.