Fe ddaeth Syr Keir Starmer i Gymru’r penwythnos diwethaf ac, fel mae’r hen wleidyddion yma yn dueddol o’i wneud, roedd ganddo garotsen swmpus i’w danglo ger bron ei gynulleidfa.

Roedd arweinydd y Blaid Lafur yn nhref glan-y-môr Llandudno ar gyfer cynhadledd Llafur Cymru, ac yn awyddus i bwysleisio y byddai ef, o’i ethol yn Brif Weinidog Prydain, yn rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru reoli ei “thynged economaidd”.