Roedd grwpiau arloesol fel Datblygu a Traddodiad Ofnus yn ddylanwad mawr ar fardd o Sir Gâr sy’n darlithio yn Nulyn…

“I ryw raddau, mae e’n rhyw fath o broses o ddogfennu ar gyfer fy nghroten fach i. Mae hi’n siarad Cymraeg, ond Gwyddeles yw hi.”

Dyna un rheswm y mae’r bardd Nerys Williams yn ei roi dros lunio’i chasgliad diweddaraf o gerddi, Republic, gyda gwasg Seren.