Dwi’n gwybod nad colofnydd teledu ydw i, a bod Gwilym Dwyfor yn cyflawni’r rôl honno’n wych ar gyfer Golwg.

Dwi’n gwybod hefyd fy mod i wedi tresmasu ar ei dir y tro diwethaf, wrth drafod Stori’r Iaith ar S4C.

Gydag ymddiheuriadau, felly, yr ydw i’n troi at y cyfrwng hwnnw unwaith eto y tro hwn. Ond mae ambell raglen deledu yn gwneud cymaint o argraff, mae’n aros gyda rhywun am ddyddiau (a mwy) ar ôl ei darlledu.