Fel maen nhw’n mynd, mae’n gamddyfyniad da. Yr Anarchydd Emma Goldman (na) ddwedodd, ‘nôl ym 1934: “If I can’t dance, I don’t want to be part of your revolution”. Arwyddair ardderchog sy’n crynhoi, i mi, bod mwy i ymgyrchu na’r ochr sych, ddifrifol, foesol. Mae’n ein harwain i feddwl am pam y byddwn ni’n brwydro am hawliau – nid er mwyn i bawb allu crafu byw, ond fel bod cyfleoedd i ddathlu a mwynhau hefyd.