Mi wnes i ymweld â Pharc Maesdu,  cae pêl-droed Llandudno, am y tro cyntaf yn 1995. Roeddwn i’n byw yn y De ar y pryd ac yn dilyn Caerdydd i bobman. Fe gafodd gêm rhwng y ddau glwb ei chwarae yng Nghwpan Cymru’r flwyddyn yna, ac enillodd Caerdydd gyda gôl hwyr. Rydw i’n cofio’r gwynt cryf yn chwythu o gwmpas y cae ac ar y pryd roedd stadiwm Parc Maesdu yn edrych yn wahanol iawn i’r cae presennol.