Y gred erstalwm oedd mai rhyw oedd yn creu trafferthion i’r Blaid Geidwadol ac mai i aelodau seneddol y Blaid Lafur yr oedd arian yn broblem. Ar hyn o bryd, mae’r Ceidwadwyr yn rhoi cynnig go-lew ar feddiannu’r ddau faes. A chreu trydydd ym maes bwlian.

Yr hen syniad oedd bod aelodau sosialaidd yn dod o gefndiroedd tlawd ac, felly, yn fwy agored i gael eu denu gan addewidion o gyfoeth. Dyna un o’r dadleuon tros roi cyflog i wleidyddion… a thros roi cyflog da.