Dim ond ychydig iawn o wleidyddion y byddwn i’n dweud fy mod i’n eu hoffi, yn hytrach na’u parchu yn unig, yn enwedig felly gyda rhai nad ydw i’n rhy gyfarwydd â nhw. Un, efallai, sy’n ffeindio’i hun yn y cae “hoffi” ydi Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd ers 2017 ac sydd wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei bod am gamu i lawr o’i swydd. Ei rheswm? “Does yna ddim digon yn y tanc mwyach”. Mae hi’n ddealladwy flinedig wedi chwe blynedd brysur, ddigynsail wrth y llyw, a hithau ond yn 43 oed.