Rwyf wedi darllen ymateb Izzy i golofn Huw Onllwyn am hiliaeth [Golwg 12/01/23].

Ond gyda phob parch i Izzy, rwy’n meddwl ei bod wedi camddeall Huw.

Roedd Huw, wedi’r cyfan, yn dyfynnu adroddiad Comisiwn gyda phob aelod, heblaw un, yn dod o leiafrif ethnig. Eu safbwynt hwy oedd o dan sylw felly, nid safbwynt Huw. Rhaid cymryd, felly, fod Izzy yn anghytuno efo safbwynt aelodau ethnig y Comisiwn!