Mae dod yn rhan o dîm cheerleeding wedi rhoi’r cyfle i un ferch ddod allan o’i chragen a gwneud “ffrindiau am oes”…

Bydd un o dimau cheerleading cenedlaethol Cymru’n dychwelyd i Fflorida’n fuan i geisio parhau yn bencampwyr byd.

Mae Tîm Adaptive Abilities Cymru yn cynnwys athletwyr sydd ag anableddau a rhai heb.

Ar hyn o bryd mae rhaglen ddogfen newydd ar y BBC yn dilyn eu hynt wrth iddyn nhw baratoi at gystadleuaeth fwyaf y byd yn 2022.