Mae yna ffrynt newydd wedi agor yn y gwrthdaro rhwng Holyrood a Llundain, ymrafael sydd am gymhlethu pethau fwy fyth.

Petawn i’n foi milwrol, mi fyddwn i’n gallu dweud wrthoch chi mai un o’r pethau pwysig i fyddin mewn brwydr ydi tir cadarn o dan draed.

Oherwydd hynny, mi fydd Llywodraeth Geidwadol Lloegr/Prydain yn fwy balch na Llywodraeth yr Alban ynghylch y pwnc diweddara’ i achosi cythrwfl.