Mae galar yn air cryf i’w ddefnyddio yng nghyd-destun chwaraeon. Wedi’r cyfan, dim ond gêm yw pêl-droed. Ond roedd fy ymateb i ymddeoliad Gareth Bale yr wythnos yma yn teimlo fel galar i fi. Roeddwn i’n gwybod nad oedd am fedru chwarae am byth, ac roeddwn i wedi paratoi i’w golli ar ôl Cwpan y Byd. Ond eto roedd darllen ei eiriau ffarwel mewn du a gwyn yn brifo gymaint.
Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.