Dydw i ddim fel rheol yn un am celebrity gossip. Dydi bywydau personol pobl enwog, gyfoethog ddim o ddiddordeb mawr imi, ac mae hynny’n ymestyn at yr holl firi ynghylch y Tywysog Harri a’i drafferthion teuluol. Yn anffodus i mi, ers rhyddhau ei lyfr Spare, sy’n bwrw golau ar bob math o bethau sydd wedi digwydd y tu ôl i lenni’r teulu hwnnw, mae’n anodd iawn ei osgoi!