Dyna ni, Nadolig arall wedi mynd ac un peth wnes i sylwi arno am y tro cyntaf oedd bod rhai cracers Nadolig, yn ogystal â jôcs gwael, ffeithiau a gemau charades, yn cynnwys awgrymiadau am bynciau trafod o gwmpas y bwrdd bwyd. Dychmygwch fy siom felly na thynnais i’r un cracer yn cynnwys fy hoff sbardun sgwrs, teledu Cymraeg!