Fe fyddan nhw’n curo ar y drws eto eleni. Mi fedra i deimlo eu symudiadau herciog, sinistr nhw’n agosáu drwy strydoedd niwlog llaith fy nghynefin. Bydd Hi’n eu harwain nhw, wrth gwrs, yn benglog wen wedi ei glanhau o bob arwydd o bwy’r arferai fod, wedi ei sgrwbio’n ddychrynllyd o lân o’r hen gig a gwaed a chyhyr.

Pwy oedd y Fari Lwyd cyn hyn?