Hawdd iawn yw cadw at amcanion pan rydych chi’n sdyc yn y tŷ. Pleser, felly, yw riportio bo fy addewidion i fyw bywyd tawel, cadw rhag siopa mympwyol, a bod yn llai gwingar, wedi bod yn hynod o lwyddiannus hyd yn hyn. Y gyfrinach at gadw at dargedau’r flwyddyn newydd? Clamp o feirws sy’n gwneud i bopeth heblaw twymo cawl deimlo fel gorchwyl snotlyd.