O blith fy ngwendidau niferus, y mwyaf hunan-niweidiol yw’r ysfa i ddarllen sylwadau’r cyhoedd ar wefannau newyddion.

Yn ddieithriad bron, maen nhw’n llawn safbwyntiau adain dde anoddefgar ac angharedig.

Mae’r fyddin hon o we-ddefnyddwyr gwrol yn targedu pawb a phopeth sydd ychydig yn ‘wahanol’ iddyn nhw eu hunain, ac yn eu lambastio am fentro bod yn wahanol.