Peth rhyfedd ydi teimlo’n falch fod rhywun fel Gareth Bale yn rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed.

Balch oherwydd na fydd rhaid i ni edrych arno’n parhau yn ddim ond cysgod o’r hyn oedd o ar ei orau.

Balch am na fydd yn gorfodi hyfforddwr Cymru i ddewis rhwng teyrngarwch i arwr a dyfodol y tîm.

Balch am ei fod yn mynd ar ei delerau ei hun, hyd yn oed os ydi anafiadau parhaus wedi bod yn rhan o’r ystyriaeth.