Rwy’n sgwennu hwn yn oerfel fy nhŷ, gan fod arweinydd gwlad ôl-gomiwnyddol wedi lansio rhyfel afiach yn Wcráin – sydd wedi arwain at godi pris nwy. Er nad yw Rwsia’n wlad gomiwnyddol erbyn hyn, nid yw’n wlad ddemocrataidd o bell ffordd. Mae Putin yn carcharu ei elynion gwleidyddol – ac wedi newid cyfansoddiad ei wlad er mwyn aros mewn grym tan ei fod yn 84 mlwydd oed.