Un o straeon mwyaf Cwpan y Byd fu perfformiadau Moroco yn ystod y twrnamaint. Mi es i wylio eu gêm nhw yn erbyn Croatia yn Stadiwm Al Bayt ac mae yn rhaid i fi gyfaddef na weles i ddim byd oedd yn awgrymu y byse nhw yn curo Sbaen, Portiwgal a Gwlad Belg – a hynny heb ildio gôl.