Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer y golofn ganlynol, i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…
Galwch fi’n rhagrithiwr achos yr wythnos diwethaf roeddwn i’n cwestiynu pam fod angen gyrru Cymry i Efrog Newydd i greu adloniant ar gyfer S4C. Wythnos yn ddiweddarach ac roeddwn i wrth fy modd gyda rhaglen arall wedi ei chreu yn y ddinas sydd byth yn cysgu.
Yn rhannol gan fod yna bwrpas i leoli’r rhaglen yma yno ac yn rhannol gan fy mod i wedi ei mwynhau hi dipyn mwy, roedd Chris a’r Afal Mawr yn bleser pur o’r dechrau i’r diwedd.
Dyma gyfres ddiweddaraf y cogydd hoffus o Gaernarfon, Chris ‘flamebaster‘ Roberts. Ond y tro hwn, yn hytrach na choginio mewn lleoliadau awyr agored o gwmpas ei dref enedigol a gweddill Cymru, mae o wedi mentro dros yr Iwerydd.
Thema’r bennod gyntaf oedd ‘clasuron Efrog Newydd’ a chawsom wledd o bastrami, cŵn poeth, byrgyrs a pizza. Y drefn oedd fod Chris yn ymweld â rhai o fwytai eiconig y ddinas i flasu’r bwyd cyn dychwelyd i’r fflat a oedd yn gartref iddo yn ystod ei gyfnod yno, i geisio ail greu rhai o’r clasuron. Felly nid oeddem yn gweld cymaint â’r arfer o Chris ei hun yn coginio ond dw i’n cael yr un faint o bleser ei weld o’n bwyta ag yr ydw i o’i weld o’n paratoi’r bwyd ac roedd hynny’n wir, hyd yn oed os mai rhywun arall oedd y cogydd.
Katz’s Deli oedd stop cyntaf taith Chris, lle a fydd yn adnabyddus i sawl un am yr olygfa enwog honno yn y ffilm When Harry Met Sally. Brechdan pastrami a oedd ar y fwydlen yno cyn symud ymlaen am gŵn poeth yn Gray’s Papaya. Byrgyr yn y Corner Bistro oedd hi wedyn ac roedd dŵr yn dod i’r dannedd unwaith eto.
Yr uchafbwynt i mi oedd y daith pizzas, wrth i Chris deithio o un pizzeria i’r llall ar fws ysgol melyn traddodiadol o bob dim. Mae yna boblogaeth Eidalaidd fawr yn Efrog Newydd, ond wrth gwrs mae’r boblogaeth honno â’i gwreiddiau mewn rhannau gwahanol o’r Eidal sy’n golygu pizzas gwahanol. Ychwanegwch at hynny ambell draddodiad mwy Americanaidd fel gwerthu fesul sleisan a choginio gyda glo ac mae gennych chi ddigon o ddeunydd am daith ddifyr ac amrywiol.
Y cwestiwn y byddai ambell un yn ei holi efallai yw faint o Gymraeg sydd mewn rhaglen wedi ei lleoli’n gyfan gwbl mewn gwlad arall? Yr ateb yw eithaf tipyn. Mae digon o Gymry alltud y ddinas yn ymuno â Chris yn yr amrywiol fwytai i roi cyfle i Chris gyfathrebu yn ei famiaith. Ond yn fwy na hynny mae o’n siarad dipyn o Gymraeg efo’r New Yorkers hefyd, a rheiny’n ei ddeall o’n rhyfeddol o dda!
Dechreuodd ambell un hyd yn oed ddefnyddio gair neu ddau o Gymraeg eu hunain. Fy hoff ddyfyniad o’r rhaglen gyfan oedd hwn gan Chef Sib yng nghegin Shmackwich tua diwedd y bennod: “If it ain’t poeth it ain’t happening, if it ain’t poeth it’s not cooking“.
Mae angerdd Chris at fwyd yn hollol heintus ac yn y gyfres hon mae o wedi llwyddo i amgylchynu ei hun gyda phobl o’r un anian. Yn hawdd, un o’r pethau gorau ar S4C ers oes. Yng ngeiriau’r dyn ei hun: “Ma’n blasu mor fudur, ia, ond mor iawn”.