Mae hi bron yn ugain mlynedd ers sefydlu rhanbarthau rygbi Cymru, ac mae’r dadlau ynghylch eu gwerth wedi rhygnu ymlaen am ddau ddegawd eu bodolaeth.
Yr hyn sy’n drawiadol yw’r gwahaniaeth syfrdanol rhwng hynt a helynt y rhanbarthau a’r tîm cenedlaethol.
Ers sefydlu pedwar rhanbarth y Scarlets, y Dreigiau, y Gweilch a Gleision Caerdydd ar gyfer tymor 2003/04, mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn yn 2005, 2008, 2012 a 2019, ac wedi sicrhau Pencampwriaethau Chwe Gwlad yn 2013 a 2021.