Rydym wedi chwalu’r wal dalu ar y golofn hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…

Soi’n siŵr pa mor hir ma fe wedi bod nawr.

Wi’n credu i mi baso mas i ddechre, falle ond am ychydig eiliade, ond falle am orie ’fyd. A nawr, wi fel tasen i ffili gweud os taw orie neu funude sy’n paso. Ma’ amser yn galler ymddwyn yn od. Falle ’mod i’n cysgu weithie, neu’n paso mas o dro i dro – ’sdim llawer o wahanieth rhwng bod yn effro a pheidio ar ôl gyment o amser yn llonydd ar lawr.

Whare teg, ma’ Jackie wedi bod yn garedig. Wedi aros ma’ ’da fi er taw dim ond am ugen munud ma’r gofalwyr i fod ’ma. Ma nhw’n cael i drwbwl am aros yn hir. Smo byth ’da nhw’r amser i aros am ddishgled bach, ond fe glywes i Jackie’n ffono’i bos ac yn gweud, I’m staying with her, however long it takes mewn llais oedd yn awgrymu fod hyn yn destun dadl. Wedyn, ar ôl ryw amser, yn ffono rhywun arall ‘to ac yn gweud, Bydd raid ti ’neud dy swper d’unan, smo’r ambiwlans am fod ’ma am orie ‘to. Na, wrth gwrs chaf i ddim overtime! Ond alla i ddim gadel hi, ma’ ddi bron yn naw deg!

Wi’n gweld y ’stafell fyw o ble wi’n gorwedd. Y silff ben tân ’da llunie ysgol yr wyrion, yn gwenu’n llonydd ac yn dawel mas o’u fframie. Y poinsetta’n dechre dangos ei gochni’n swil. Y gader ble’r o’dd David yn arfer ishte, ei siap e’n dal i bwyso’n anweledig ym mhlygion y clustoge.

O’dd poen ’da fi yn y dechre’, ond soi’n teimlo dim nawr. Ma’ Jackie’n rhoi dŵr i fi drwy welltyn papur o’dd ’da ddi yn ei char, ond fi’n ffaelu bwyta dim. Ma’ ‘ddi ’di dod â’r duvet i lawr o’r ystafell sbâr, hen ’stafell y bechgyn, ac wedi’i lapio e amdana i fel ’tawn i’n blentyn bach. So ni moyn chi’n oeri nawr, y’n ni. Ond dan y duvet, mae fy nghorff i’n teimlo fel craig. So Jackie’n ifanc chwaith, ond ma’ ddi’n ishte ar lawr yn fy ymyl i ar hen gobennydd, yn dal fy llaw i ac yn clebran er nag ydw i’n gwrando. Un diwrnod, pan fydda i’n well, bydda i’n llefen wrth gofio mor garedig ma’ Jackie ’da fi heddi. Ond am heddi, fi’n ffili gwneud dim byd heblaw gorwedd yn fan hyn, yn gobeithio clywed seiren wrth syllu drwy’r drws ar y bywyd cyffredin, hyfryd ro’n i’n ei fyw ddoe.