Pan mae Alan Shearer yn trafod cynnwys adroddiadau Amnesty International cyn gêm gynta’ Cwpan y Byd, mae rhywbeth o’i le. Mae rhywbeth mawr o’i le.

Yn lle dangos seremoni agoriadol Cwpan y Byd Qatar y Sul diwethaf, dyma’r BBC yn penderfynu dangos pyndits pêl-droed yn trafod beiau’r wlad fach ryfedd sy’n cynnal y gystadleuaeth.

Does dim dwywaith bod angen gofyn cwestiynau caled.