Dechreuodd Cwpan y Byd 2022 i fi ym Maes Awyr Manceinion, am hanner dydd ar ddydd Sadwrn. Clywais i dwrw yn codi o’r lolfa ac wrth agosáu mi wnes i sylwi mai cefnogwyr yr Unol Daleithiau oedd yn gwneud y sŵn. “USA! USA!” roedden nhw’n gweiddi wrth gwrs, fel tase nhw yn fynychwyr rali Donald Trump. Ac yn eu wynebu nhw ac yn chwerthin wrth y siop WH Smith roedd grŵp o gefnogwyr Ecwador.