Mae digwyddiadau yn ein dwy Senedd yn awgrymu bod angen edrych eto – yn ddwfn – ar bwy sy’n cyflogi Aelodau Seneddol a’u staff.

Ar hyn o bryd, dydi’r Aelodau eu hunain ddim yn cael eu cyflogi gan neb yn ffurfiol, dim ond eu hethol. Nhw, yn eu tro, sy’n cyflogi eu cynorthwywyr.

O ganlyniad, yn San Steffan o leia’, mae dau aelod (o leia’) wedi bod yn anwybyddu rheolau arferol cyflogaeth yn llwyr. Y deuawd doniol – Boris a Matt.