Ddechrau’r wythnos roedd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio apêl am siaradwyr Cymraeg i sgwrsio gyda dysgwyr.

‘Siarad’ yw enw’r cynllun ac mae cannoedd o Gymry rhugl yn rhoi o’u hamser i ymarfer siarad Cymraeg gyda’r bobol dda hynny sydd wedi ymrwymo i feistroli’r heniaith.

Tydi dysgu iaith ddim yn hawdd i oedolyn prysur, wrth reswm, ac mae angen mwy na dim ond gwersi wythnosol i gael gafael go-iawn ar y Gymraeg.