Dwi’n teimlo ’mod i wedi bod yn aros am rŵan ar hyd f’oes.

Mi wnes i grïo pan welais i o, a dwi’m yn foi am grïo. Roedd o’n bob dim ar unwaith, a’r dorf o ‘nghwmpas i mor wyllt â tasa hyn yn grefydd. Fy meibion bob ochr i mi, a Dafydd Iwan ar y cae yn canu, a pawb, pawb, yn canu ‘Yma o Hyd’ efo fo, yn teimlo’r geiria’ ym mêr ein hesgyrn fatha emyn mewn diwygiad.