Gobeithio y bydd Cwpan Bêl-droed y Byd yn well nag y mae’n argoeli, o ran cysur a mwynhad cefnogwyr, beth bynnag. Am unwaith, efallai y bydd y chwarae ar y cae yn fwy deniadol na’r craic.

Cyn i neb fynd yno, mae’r anghysur gwleidyddol wedi bod yn amlwg. Peidiwch â synnu os bydd hwnnw’n cael ei anghofio wrth i’r twrnament ddechrau… os na wnaiff awdurdodau Qatar roi eu holew ar y fflamau.